Croeso i dudalen y Gymraeg ar Pontoon.
Pwrpas Pontoon yw cynorthwyo gwirfoddolwyr sy'n cyfrannu tuag at gyfieithu deunydd Mozilla - rhaglenni Firefox a Thunderbird, tudalennau gwe Mozilla.org, ac unrhyw beth arall a ddaw!
Hoffech chi gyfrannu? Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr brwdfrydig sydd â Chymraeg cywir a chryf, sy'n hoffi bod yn aelod o dîm ac yn cytuno gydag amcanion Mozilla. Cysylltwch â fi, Rhoslyn Prys ar post@meddal.com i drafod sut fyddech chi'n hoffi cyfrannu.
Dim yn ffansïo cyfieithu? Beth am gyfrannu tuag at hyrwyddo neu godio meddalwedd Cymraeg?
Croeso mawr i chi!